Amdanom Ni - About Us


Clwb Hwyl Hwyr

Mae Clwb Hwyl Hwyr yn glwb gweithgareddau i blant a phobl ifainc o 5 i 14 mlwydd oed. Amcan y mudiad yw rhoi cyfle i blant a phobl ifainc Prestatyn chwarae a mwynhau gweithgareddau yn y Gymraeg y tu allan i'r ysgol.

Nid yw'r mudiad yn gwneud elw a chaiff ei redeg gan wirfoddolwyr. 

Beth mae Clwb Hwyl Hwyr yn ei Ddarparu?

Mae Clwb Hwyl Hwyr wedi'i seilio yn ar dri safle:
Capel Rehoboth                Blwyddyn 1 i 3 
Eglwys Nant Hall               Blwyddyn 4 i 6
Canolfan Pop In                 Blwyddyn 7 i 9


Mae'r mudiad yn rhedeg unwaith bob pythefnos ar Nos Lun rhwng 6 a 7.30 y.h. Caiff y  tri grwp eu cynnal ar yr un pryd. Bydd y Clwb yn paratoi rhaglenni gweithgareddau addas yn cynnwys chwaraeon, drama, arlunio, crefftau a thripiau. 


Aelodaeth

I helpu i gynnal y clwb bydd angen tal aelodaeth o £10 am y tymor, £8 am yr ail blentyn a £6 am y trydydd. Bydd rhaid i blant sydd heb ymaelodi dalu £1.50 am sesiwn.

Mae'r arian yma'n mynd tuag at ddiodydd ac i helpu i dalu am weithgareddau, tripiau, digwyddiadau ac yswiriant y Clwb.

Diogelwch y Plant

Mae holl wirfoddolwyr y clwb wedi cael gwiriad gan y swyddfa cofnodion troseddol (CRB). Mae gan y mudiad ei hun bolisi amddiffyn plant, iechyd a diogelwch a pholisi bwlio.

 

Clwb Hwyl Hwyr

Clwb Hwyl Hwyr is a youth organisation for children and young people aged 5 - 14. Clwb's main aims are to offer and deliver Welsh Language Activities to the young people of Prestatyn outside the school environment.

Clwb Hwyl Hwyr is a non for profit organisation which is run by local volunteers. 

What Clwb Hwyl Hwyr provides

Clwb Hwyl Hwyr is based out of three venues:
Rehoboth Chapel, Prestatyn          Year 1 to 3
Nant Hall Church                             Year 4 to 6
Pop In Centre                                 Year 7 to 9

Clwb runs once every two weeks on Monday Nights 6 till 7.30pm. All three clubs run at the same time! The organisation provides planned programmes of activities ranging from organised games and sports, drama, arts and crafts and trips.


Membership

To help run the club, there will be a £10 membership charge per term, £8 for the second and £6 for the third. Non members will be charged £1.50 a visit.

This will help club provide drinks and help pay for any activities, trips, events and insurance
.  

Child Safety

All volunteers are CRB checked. The organisation it’s self has a child protection, health and safety and anti bullying policy.